Skip to main content

Help With Suicidal Thoughts

What to do if you need help immediately

 

Are you thinking about suicide?

 

STOP

 

  • Don’t do anything right now, you do not have to act on your thoughts of suicide.
  • Suicide is final – your thoughts, feelings and problems can change.
  • You may feel overwhelmed and that there’s no way out but when we are struggling to cope, our mind closes down our problem-solving skills.
  • Try to keep yourself safe for now and spend time thinking about what your reasons for living might be.

 

GET HELP

 

  • Talk to someone; a friend, family member or support service – see the list below - there are people who want to listen and help.
  • Phone 111 and press 2 to speak directly to a mental health professional.
  • If you feel your life is at risk, phone 999 or go to your nearest A&E.

 


Are you worried about someone else?

 

  • If you suspect someone may be thinking about suicide, ask them – it could save their life.
  • Not everyone who thinks about suicide will tell someone but there may be warning signs.
  • Tell the person why you are worried about them and that it is ok to talk about suicide.
  • Listen to what the person says and treat what they say seriously and sensitively.
  • Try not to judge or give advice.
  • Discuss how they can keep safe and where you can find help together.
 
GET HELP

 

  • Encourage them to call 111 and press 2 to speak directly to a mental health professional.
  • Encourage them to use one of the supported services below.
  • If you think they are in immediate danger, phone 999 or go together to your nearest A&E.

 

 

Beth i’w gwneud os oes angen cymorth brys arnoch

 

Ydych chi'n meddwl am hunanladdiad?

 
Stopiwch
  • Peidiwch â gwneud unrhyw beth nawr, does dim rhaid i chi weithredu ar eich meddyliau hunanladdol.
  • Mae hunanladdiad yn derfynol – gall eich meddyliau, teimladau a phroblemau newid.
  • Efallai eich bod yn teimlo wedi llethu neu fel nad oes ffordd allan, ond pan rydyn yn cael trafferth ymdopi, mae ein hymennydd yn rhoi’r goruau ar ein sgiliau datrys problemau.
  • Ceisiwch gadw eich hun yn ddiogel am nawr a threuliwch ychydig o amser yn meddwl am y rhesymau dros aros yn fyw.

 

CEISIWCH GYMORTH
  • Siaradwch gyda rhywun; ffrind, aelod o’r teulu neu wasanaeth cymorth – gwelwch y rhestr isod – mae yna bobl sydd eisiau gwrando a helpu.
  • Ffoniwch 111 a phwyso 2 i siarad yn uniongyrchol â gweithiwr iechyd meddwl proffesiynol.

  • Os ydych yn teimlo fel bod eich bywyd mewn perygl, ffoniwch 999 neu ewch i’r Adran Damweiniau ac Achosion Brys.

Ydych chi'n poeni am rywun arall?

 

  • Os ydych yn tybio bod gan rywun meddyliau am hunanladdiad, gofynnwch iddyn nhw- gall achub eu bywyd.
  • Ni fydd pawb sy’n meddwl am hunanladdiad yn dweud wrth rywun, ond efallai bod arwyddion rhybudd yno.
  • Dywedwch wrth yr unigolyn pam eich bod yn poeni amdanynt a’i bod yn iawn i siarad am hunanladdiad.
  • Gwrandewch ar beth sydd gan yr unigolyn i ddweud a chofiwch i drin yr hyn maent yn dweud yn ddifrifol ac yn dringar.
  • Ceisiwch beidio â barnu neu roi cyngor.
  • Trafodwch sut y gallant gadw’n ddiogel a lle i ddod o hyd i gymorth.

 

CEISIWCH GYMORTH

 

  • Anogwch nhw i ffonio 111 a phwyso 2 i siarad yn uniongyrchol â gweithiwr iechyd meddwl proffesiynol.
  • Anogwch nhw i ddefnyddio un o’r gwasanaethau y cefnogir isod.
  • Os ydych yn teimlo fel bod eu bywyd mewn perygl, ffoniwch 999 neu ewch gyda’ch gilydd i’r Adran Damweiniau ac Achosion Brys.

Staying Safe

Mae Staying Safe yn cynnig ffyrdd tosturiol, caredig a hawdd er mwyn helpu cadw pobl yn ddiogel rhag meddyliau’n ymwneud â hunan-niweidio a hunanladdiad, i geisio cymorth a chael gobaith o wella drwy fideos pwerus gan bobl sydd â phrofiad personol.

Os ydych yn cael anhawster gyda sefyllfa anodd ac yn cael meddyliau hunanladdol, mae’r wefan hon yn rhoi syniadau ynglŷn â sut i weithio’ch ffordd drwyddi a’r pethau y gallwch chi – a phobl eraill – eu gwneud i wneud pethau’n well.

Ewch i: www.stayingsafe.net

(Nodwch, mae’r ffynhonnell hwn ar gael yn Saesneg yn unig ar hyn o bryd. Os yw’ch gosodiadau yn y Gymraeg, bydd eich porwr yn cynnig opsiwn i gyfieithu’r wefan o’r Saesneg i’r Gymraeg i chi)

GIG 111 Pwsyo 2

I gael cymorth iechyd meddwl ar frys FFONIWCH 111 a phwyso RHIF 2

Mae'r gwasanaeth ar gael i bobl o bob oed, 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos ym mhob rhan o Gymru, i sicrhau bod pobl sydd angen cymorth yn gallu cael gafael arno’n gyflym pan fydd ei angen arnynt fwyaf.

Os ydych chi eisiau siarad â rhywun ar frys am eich iechyd meddwl, neu os ydych chi'n poeni am aelod o'r teulu, ffoniwch GIG 111 a dewis opsiwn 2 i gael eich cysylltu’n uniongyrchol â gweithiwr iechyd meddwl yn eich ardal.

Gallwch ffonio am ddim o linell ffôn neu ffôn symudol, hyd yn oed os nad oes gennych gredyd ar ôl.


Llinell Wrando Iechyd Meddwl CALL

Mae CALL yn darparu llinell wrando iechyd meddwl a chymorth emosiynol cyfrinachol sydd ar gael 24/7. Gall CALL hefyd gyfeirio unigolion at gefnogaeth mewn cymunedau lleol ac at ystod o wybodaeth ar-lein.

Ffoniwch nawr ar 0800 132 737

Tecstiwch ‘help’ i 81066

Shout

Shout yw’r gwasanaeth negeseuon testun 24/7 am ddim, cyntaf y DU ar holl brif rwydweithiau ffonau symudol, ar gyfer unrhyw un mewn argyfwng, unrhyw bryd ac yn unrhyw le. Mae’n fan i fynd iddo os ydych yn cael anhawster yn ymdopi a’ch bod angen cymorth ar frys.

Gweithredir Shout gan dîm o wirfoddolwyr, sy’n ganolog i’r gwasanaeth.

Tecstiwch ‘shout’ i 85258

Neu ewch i www.giveusashout.org


Llinell Wrando Iechyd Meddwl CALL

Mae CALL yn darparu llinell wrando iechyd meddwl a chymorth emosiynol cyfrinachol sydd ar gael 24/7. Gall CALL hefyd gyfeirio unigolion at gefnogaeth mewn cymunedau lleol ac at ystod o wybodaeth ar-lein.

Tecstiwch ‘help’ i 81066


Llinell decst Young Minds

Mae llinell decst YoungMinds yn cynnig cymorth am ddim, 24/7 dros neges destun i bobl ifanc dan 25oed, unrhyw le yn y DU. Os oes angen siarad â rhywun am sut rydych yn teimlo.

Tecstiwch YM i 85258

(Nodwch, mae’r ffynhonnell hwn ar gael yn Saesneg yn unig ar hyn o bryd)

Os ydych wedi bod yn profi anawsterau gyda’ch iechyd meddwl ac efallai am ddod o hyd i wybodaeth, opsiynau triniaeth a ble i fynd am gefnogaeth, mae gan yr elusen DU Mind adnoddau defnyddiol iawn a all eich helpu deall y wahanol fathau o anawsterau iechyd meddwl y gall bobl eu profi, yn well.

Adnoddau Cymraeg: Gwybodaeth a chefnogaeth | Mind, the mental health charity - help for mental health problems

Mind

Os ydych chi'n cael amser anodd ar ôl ymgais hunanladdiad, mae Mind yma i chi. Dydych chi ddim ar eich pen eich hun. Mae ganddynt adran benodol ar eu gwefan sy'n rhoi cymorth i bobl yn dilyn ymgais hunanladdiad: Ymdopi ar ôl ymgais hunanladdiad - Mind

Mae nifer o wasanaethau iechyd meddwl y trydydd sector ar gael ym Mhowys y gallwch ddefnyddio i gael cefnogaeth.

Gallwch chwilio ‘Iechyd Meddwl’ ar InfoEngine i ddod o hyd i wasanaethau yn lleol i chi.

Cyfeiriadur Gwasanaethau (powysmentalhealth.org.uk)

Connect: